6 Mehefin 2018
Annwyl Aelod Cynulliad,
Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 24 Mai. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.
Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd fel rhan o’r ymgynghoriad ar ei gynigion i gynyddu’r defnydd hyblyg o lwfansau presennol y Penderfyniad. Trafododd y Bwrdd hefyd oblygiadau ehangach y newidiadau, gan ystyried ei ddyletswydd i ddarparu adnoddau digonol i Aelodau i’w galluogi i ymgymryd â’u rôl yn effeithiol tra’u bod yn sicrhau gwerth am arian a thryloywder o ran y defnydd o gronfeydd cyhoeddus. Amlinellir penderfyniadau’r Bwrdd ar bob cynnig isod. Efallai y bydd yr Aelodau am nodi bod y newidiadau hyn yn berthnasol i lwfansau Aelodau unigol ac nid y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
Dileu’r cap cyflogaeth o 111 awr ar staff a gyflogir ar sail barhaol
Gan fod yr holl ymatebion a oedd yn cyfeirio at y cynnig o blaid dileu’r cap cyflogaeth o 111 awr ar staff a gyflogir ar sail barhaol, cytunodd y Bwrdd i weithredu’r cynnig hwn.
Mae’r Bwrdd wedi penderfynu gweithredu’r cynnig hwn yn effeithiol o 1 Hydref 2018 ymlaen. Nododd y Bwrdd y dylai’r dyddiad hwn roi digon o amser i Aelodau baratoi ar gyfer y newid ac ystyried sut y gallant ddefnyddio’r hyblygrwydd newydd.
Trosglwyddo rhwng cyllidebau
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a oedd yn cyfeirio at y gallu cynyddol i drosglwyddo rhwng lwfansau. Gan fod yr holl ymatebion o blaid y cynnig, cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i Aelodau drosglwyddo cyfanswm o hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa a/neu werth llawn eu Cronfeydd Polisi, Cyfathrebu ac Ymchwil i’w Lwfansau Staffio, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae’r Bwrdd wedi penderfynu gweithredu’r penderfyniad hwn yn effeithiol o 1 Hydref 2018 ymlaen. Gan y bydd y newid hwn yn digwydd hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol, bydd y symiau y caniateir iddynt gael eu trosglwyddo yn symiau pro-rata yn ystod y
flwyddyn ariannol hon. Bydd Aelodau felly’n gallu trosglwyddo hyd at 12.5 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa a hyd at £1,250 o’u Lwfans Cronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Mawrth 2019.
Cyllidebu’r lwfans staffio ar y pwyntiau cyflog gwirioneddol
Roedd yr holl ymatebion a ddaeth i law ar y mater hwn yn croesawu cynigion y Bwrdd. O ganlyniad, cytunodd y Bwrdd i gyfrifo’r Lwfans Staffio sy’n weddill ac sydd ar gael, yn seiliedig ar y gost wirioneddol yn hytrach na chyfanswm y gost staff fwyaf, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Nododd y Bwrdd y byddai angen rhoi systemau priodol yn eu lle i gynorthwyo Aelodau i reoli unrhyw anwadalrwydd cyllidebol. O ganlyniad, mae’r Bwrdd wedi cytuno bod angen cyfnod arweiniol addas a phenderfynwyd y bydd y cynnig hwn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019. Bydd hyn yn caniatáu i brosesau cefnogi addas fod yn eu lle i gefnogi’r Aelodau a’u staff drwy’r newid.
Cyhoeddiad blynyddol cyfanswm gwariant yr Aelodau ar staffio
Oherwydd bod yr holl ymatebion a ddaeth i law ar y mater hwn yn cytuno â’r cynnig, cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi cyfanswm gwariant yr Aelodau ar staffio yn flynyddol.
Nododd y Bwrdd y pryderon a fynegwyd mewn ymatebion yn gofyn am sicrwydd na fyddai’n bosibl adnabod data personol staff cymorth o unrhyw ddata a gyhoeddir. Cytunodd y Bwrdd i roi mesurau diogelu ar waith i sicrhau na ellid adnabod unrhyw staff cymorth o’r wybodaeth a gyhoeddir. Byddai hyn yn cynnwys cyfanswm gwerth ariannol y gwariant cyfan gan bob Aelod ac nid gwybodaeth am bob aelod o staff cymorth unigol.
Mae’r Bwrdd wedi penderfynu gweithredu’r penderfyniad hwn ar unwaith a bydd y data cyntaf yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, sef ym mis Ebrill 2019. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cynulliad, fel sy’n digwydd ar gyfer lwfansau eraill ar hyn o bryd.
Adolygu’r newidiadau
Nododd y Bwrdd y pryderon a fynegwyd na fyddai’r hyblygrwydd ychwanegol a gynigir gan y Bwrdd yn diwallu anghenion yr holl Aelodau. Cytunodd y Bwrdd â’r ymatebwyr y dylid adolygu effaith y newidiadau hyn ar ôl eu gweithredu i asesu’r ffordd y mae
Aelodau’n defnyddio’r hyblygrwydd newydd ac effeithiolrwydd y newidiadau. Bydd y Bwrdd yn adolygu effaith y newidiadau chwe mis a 12 mis ar ôl eu gweithredu.
Cyhoeddi’r ymatebion
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law mewn unrhyw allbwn yr oedd yn cytuno i’w gynhyrchu ar ddiwedd yr adolygiad.
Effeithiau’r newidiadau arfaethedig ar Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
Trafododd y Bwrdd effeithiau ehangach y newidiadau y mae wedi cytuno arnynt i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Mae’r Bwrdd wedi cytuno i ymgynghori ar gynigion tebyg ar gyfer y lwfans hwn. Mae manylion y cynigion hyn wedi’u nodi yn y llythyr ymgynghori ar wahân.
Trafod y dystiolaeth ymhellach
Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, cytunodd y Bwrdd i drafod y dystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o’i adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion hyn eto maes o law.
Y rhwystrau a’r cymhellion i fod yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad
Cyfarfu’r Bwrdd â chynrychiolwyr Canolfan Llywodraethiant Cymru a wnaeth y gwaith ymchwil ar ran y Bwrdd. Trafododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad a sut y byddai’n dymuno ymdrin â rhai o’r argymhellion ynddo. Bydd y Bwrdd yn trafod camau nesaf yr adolygiad â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.
Polisi Urddas a Pharch
Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio i gymeradwyo ei Bolisi Urddas a Pharch newydd. Cytunodd y Bwrdd i weithio gyda grwpiau cynrychiolwyr yr Aelodau a’r staff cymorth i nodi unrhyw newidiadau i’r polisïau presennol y mae’n gyfrifol amdanynt yng ngoleuni’r Polisi newydd. Mae’r Bwrdd hefyd wedi cytuno y bydd y gwaith hwn yn ystyried canlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf. Bydd y Bwrdd yn dychwelyd at y mater yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
Materion eraill
Cytunodd y Bwrdd i gynnal sesiwn galw heibio i Aelodau yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf. Bydd hwn yn gyfle i Aelodau gwrdd â’r Bwrdd Taliadau i drafod unrhyw faterion sy’n codi. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu â hwy maes o law.
Caiff y llythyr hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd, yn ôl ein harfer.
Os hoffech drafod unrhyw fater gyda mi, neu gydag un o’m cyd-aelodau ar y Bwrdd, mae croeso ichi gysylltu â mi drwy’r ysgrifenyddiaeth.
Cofion gorau,
Y Fonesig Dawn Primarolo
Cadeirydd y Bwrdd Taliadau
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.